• ‘Forward thinking welsh music industry showcase’

    Metro
  • Rhaglen Datblygu Artistiaid


    Cyhoeddi rhaglen beilot newydd i ddatblygu cerddorion yng Nghymru

    Mae tri o brif sefydliadau cerddoriaeth Cymru wedi dod ynghyd i ddarparu rhaglen beilot newydd i ddatblygu artistiaid, a hynny’n dilyn Showcase Scotland 2022.

    Yn 2021, dechreuodd Tŷ Cerdd, Trac Cymru a FOCUS Wales bartneriaeth newydd, gan greu a darparu Rhaglen Datblygu Artistiaid gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Nod y rhaglen yw rhoi hwb i sector cerddoriaeth Cymru yn y genres cerddoriaeth werin, cerddoriaeth draddodiadol, cerddoriaeth y byd a cherddoriaeth sy’n seiliedig ar iaith, a hynny drwy roi cyfleoedd mentora a datblygu proffesiynol unigryw i artistiaid gan eu galluogi nhw i gyflawni eu potensial rhyngwladol.

    Caf odd yr artistiaid sy’n cymryd rhan yn y rhaglen beilot hon eu dewis drwy alwad am artistiaid i berfformio yn nigwyddiad Showcase Scotland yng ngŵyl Celtic Connections 2022. I gyd, ymatebodd 42 o artistiaid cyffrous ac amrywiol i’r alwad. Dan gadeiryddiaeth Lisa Matthews-Jones, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru, aeth panel ati i lunio rhestr fer o 15 artist drwy broses asesu dau gam.

    Tra mai 6 o artistiaid a gafodd eu dewis gan Donald Shaw (Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections) i berfformio yn y digwyddiad mawreddog, cafodd pob un o’r 15 artist a gyrhaeddodd y rhestr fer gyfle i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy gael lle ar y Rhaglen Datblygu Artistiaid.

    Dyma’r artistiaid a gafodd eu dewis:
    ALAW
    Bragod
    CALAN
    Catrin Finch & Aoife Ní Bhríain
    Cynefin
    Eve Goodman
    Gitân
    HMS Morris
    Jodie Marie
    N’famady
    Kouyaté
    NoGood Boyo
    Pedair
    The Gentle Good
    The
    Trials of Cato
    Vrï

    Gyda’i gilydd, mae Brexit a phandemig Covid wedi cael effaith drom ar yrfaoedd cerddorion yng Nghymru, ac mae’n bygwth cael effaith hirhoedlog ar ecosystem fregus y byd cerddoriaeth. Bydd y Rhaglen Datblygu Artistiaid yn cyfrannu at ailadeiladu gyrfaoedd cerddorion. Bydd yn hybu datblygiad proffesiynol ac yn meithrin capasiti ar bob lefel yn y sector cerddoriaeth yng Nghymru.

    Meddai Andy Jones, Rhaglennydd Cerddoriaeth FOCUS Wales: “Mae’r rhaglen datblygu artistiaid wedi rhoi cyfle gwych i bawb sy’n rhan ohoni i asesu a thrafod seilwaith y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd, gan edrych ar beth yn rhagor y gellid ei wneud. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o’r hyn y mae modd ei gyflawni pan fydd sefydliadau yng Nghymru yn dod ynghyd ac yn rhannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u rhwydweithiau i gryfhau’r hyn sy’n cael ei gynnig i’n cymuned gerddorol. Drwy ein sgyrsiau, rydyn ni wedi gallu canfod yr heriau sy’n wynebu ein hartistiaid, ynghyd â’u hanghenion penodol, ac mae hyn eisoes wedi bod yn bwysig i’r artistiaid wrth iddyn nhw ddatblygu strategaethau ar gyfer eu gyrfa oedd. Mae nifer o ffyrdd i artistiaid greu gyrfaoedd cerddorol yn 2022, ac rwy’n teimlo bod y rhaglen datblygu artistiaid wedi grymuso’r artistiaid sy’n cymryd rhan i sylweddoli faint o reolaeth sydd ganddyn nhw dros lwybrau eu gyrfa.”

    Nid gwerth economaidd yn unig sydd i gerddoriaeth yng Nghymru. Mae’r pandemig wedi dangos yn gwbl glir rôl hanfodol y celfyddydau wrth gyfrannu at les meddyliol a chorfforol ein cymunedau. Meddai Danny Kilbride, Cyfarwyddwr a Phrif Weithredwr Trac Cymru: “Mae ein Rhaglen Datblygu Artistiaid yn cynnwys 15 act sy’n adlewyrchu perthynas â’r gymuned sy’n creu Cymru, gan roi cip lun inni o bwy ydyn ni fel pobl a sut rydyn ni’n dewis dathlu bywyd a diwylliant amrywiol yn yr unfed ganrif ar hugain. Rydyn ni’n ceisio osgoi’r gair
    “traddodiadol”. Mae’n swnio’n sefydlog, yn farw, yn ddieithr. Nid yw’n air y byddwn ni’n ei ddefnyddio yn y Gymraeg, hyd yn oed. Rydyn ni’n defnyddio ‘gwerin’, sy’n sôn am bobl, am gymunedau, amdanon ni. Felly mae ein cerddoriaeth yn swnio fel ni, yn amrywiol, yn hynafol, yn fodern. Nid ailgynhyrchu nodau ydyn ni, ond chwarae cerddoriaeth.”

    Mae cydweithio’n allweddol er mwyn i artistiaid yng Nghymru ddatblygu’n rhyngwladol. Meddai Deborah Keyser, Cyfarwyddwr Tŷ Cerdd: “Mae cydweithio’n ganolog i’r Rhaglen Datblygu Artistiaid, ac mae’n teimlo’n amserol iawn bod ein tri sefydliad wedi dod ynghyd i ddarparu’r cynllun hwn. Mae cefnogi pobl sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru i ddatblygu eu harferion artistig, eu sgiliau busnes a llwybrau eu gyrfa yn ganolog i’n gwaith ni i gyd. Rydyn ni’n gweithio bob dydd gydag artistiaid, hyd yn oed os yw hynny mewn ffyrdd gwahanol, ac mae dod ynghyd a dysgu gan ddulliau gweithio ein gilydd yn ein helpu ni i dyfu fel sefydliadau, gan roi cyfleoedd i’r artistiaid rydyn ni’n gweithio gyda nhw ar yr un pryd. Yn ein tro, rydyn ni’n cydweithio â phob math o weithwyr proffesiynol yn y sector (drwy’r elfen fentora, er enghraifft) i roi’r sgiliau arbenigol y mae artistiaid wedi dweud y mae arnyn nhw’u hangen.”

    Bydd y Rhaglen Datblygu Artistiaid yn parhau yn 2022-23, wrth inni edrych ymlaen at flwyddyn arall o gyfleoedd cyffrous i gerddorion Cymru yn dilyn y cyhoeddiad mai Cymru fydd Partner Rhyngwladol Showcase Scotland 2023 yng ngŵyl Celtic Connections, ar y cyd â Llydaw.

    Sefydliad nid-er-elw yw FOCUS Wales. Fe’i sefydlwyd i ddarparu digwyddiad arddangos cerddorol newydd blynyddol i ddiwydiant cerddoriaeth Cymru. Mae ein prif waith yn canolbwyntio ar ddarparu gŵyl arddangos ryngwladol mewn sawl lleoliad, a honno’n cael ei chynnal yn flynyddol yn Wrecsam. Mae’n tynnu sylw’r diwydiant cerddoriaeth at y dalent ne wydd sydd gan Gymru i’w chynnig i’r byd, ynghyd â chyflwyno detholiad o’r artistiaid newydd gorau o bob cwr o’r byd. FOCUS Cymru 2022 fydd yr unfed ŵyl ar ddeg o’r fath, a bydd yn croesawu dros 15,000 o bobl i’r dref, gan ddatblygu ar y gynulleidfa uchaf erioed yn 2021, a hynny yn ystod penwythnos llawn dop o ddigwyddiadau. Nid oes unman yn debyg i Wrecsam yn ystod FOCUS Cymru, wrth inni roi llwyfan i 250+ o artistiaid o bob rhan o’r byd, llenwi gofodau a lleoliadau cerddoriaeth di-ri, defnyddio 20 llwyfan, a chynnal rhaglen lawn o sesiynau rhyngweithiol i’r diwydiant, digwyddiadau celfyddydol, a dangosiadau ffilm. Yn ogystal â darparu gŵyl FOCUS Wales, rydyn ni hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau FOCUS Cymru rhyngwladol drwy gydol y flwyddyn.

    Tŷ Cerdd, Canolfan Gerddoriaeth Cymru, yw’r asiantaeth ddatblygu i gerddoriaeth Cymru. Mae’n gweithio gyda grwpiau cymunedol ledled Cymru, gan gynnig arbenigedd a chymorth i hyrwyddo, ac mae’n eu helpu i gysylltu â chyfansoddwyr a chynulleidfaoedd.
    Mae Tŷ Cerdd yn rhoi cymorth uniongyrchol i bobl sy’n creu cerddoriaeth, mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau. Y slogan yw, “Os ydych chi’n creu cerddoriaeth yng Nghymru, cerddoriaeth Gymreig yw hi”. Mae stiwdio recordio fewnol yr asiantaeth, ynghyd â’i label recordiau (Recordiau Tŷ Cerdd) a’i argraffnod cyhoeddi yn cefnogi’r gwaith hwn. Mae Tŷ Cerdd hefyd yn ariannu sawl cynllun sy’n hybu creu cerddoriaeth ledled Cymru, gan ddosbarthu cyllid y Loteri ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.

    Trac Cymru yw sefydliad datblygu gwerin Cymru; mae’n gweithio i hyrwyddo a datblygu traddodiadau cerddorol a dawnsio Cymru, a hynny gartref a’r tu hwnt. Mae’n eirioli ar ran y traddodiad ymhlith cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill. Fe’i sefydlwyd yn 1997 ar sail cred gyffredin ym mhwysigrwydd a gwerth diwylliant traddodiadol Cymru, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd yn y cyfnod presennol, a brwdfrydedd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w gynnig. Heddiw, mae Trac Cymru’n gwneud gwaith datblygu strategol ar
    ran sîn cerddoriaeth werin a dawnsio gwerin Cymru, a hynny drwy ennyn diddordeb, meithrin talent a chyflwyno cerddorion gwerin gorau Cymru i’r byd.

    Fe ddewch chi ar draws Trac Cymru’n gweithio mewn ysgolion, lleoliadau cymunedol, ar feysydd gwyliau ac mewn digwyddiadau arddangos rhyngwladol, gan helpu i sicrhau bod celfyddydau traddodiadol Cymru yn parhau i gyfoethogi bywydau waeth beth yw oedran, cefndir, hil na iaith pobl. Yn 2000, daeth Trac Cymru yn Elusen Gofrestredig ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy Warant. Mae’n cael ei redeg gan dîm gweithredol sy’n cael ei gefnogi gan Ymddiriedolwyr ymroddedig sy’n frwd dros ddiwylliant gwerin ac sy’n arbenigwyr yn eu meysydd.