FOCUS WALES @ SXSW 2023
IAU 16 MAWRTH yn The Creek & The Cave, Austin
611 E 7th St, Austin, TX 78701, Yr Unol Daleithiau
creekandcave.com
Ymunwch â’r tîm sy’n gyfrifol am ŵyl FOCUS Wales yn The Creek & The Cave, Austin, ar ddydd Iau, Mawrth 16eg, o 7:30yh am ddiodydd cyfarch a rhwydweithio (dewch yn gynnar i beidio â cholli allan), gyda sampl o’r gorau o gerddoriaeth o Gymru i ddilyn o 8:00yh RSVP YMA
Mynediad RSVP yn ddilys ond trwy achrediad SXSW yn unig
Er y gall mynychwyr gŵyl SXSW barhau i gael mynediad i’r lleoliad ar gyfer yr arddangosiad heb RSVP, mae ANGEN YR RSVP YMA AR GYFER Y DIODYDD CYFARCH o 7:30yh – hyd nes bod dim diod ar ôl – felly cofiwch ddodd yn gynnar er mwyn peidio â methu allan!
+ NODER: MAE DERBYNIAD DIODYDD CYFARCH AR AGOR I HOLL DDEILIAID PAS SXSW
AC MAE’R DERBYNIAD YN AGORED I BAWB DROS 21 OED YN UNIG.
Yn cyflwyno amserlen arddangos FOCUS Wales @ SXSW:
01:00yb PANIC SHACK
12:10yb ADWAITH
11:20yh ALASKALASKA
10:30yh N’FAMADY KOUYATE
9:40yh THE TRIALS OF CATO
8:50yh EDIE BENS
8:00yh CHROMA
7:30yh FOCUS Wales Drinks Mixer in the front bar!
#CerddoriaethGymreigDramor
focuswales.com
Sioeau eraill gan artistiaid o Gymru yn SXSW:
LLU 13eg Mawrth am 09:00pm | Panic Shack | yn BME @ Cedar Street Courtyard
MAW 14eg Mawrth am 01:00am | Adwaith | yn Half Step – Beyond The Music showcase
MER 15fed Mawrth am 08:00pm | N’famady Kouyate | yn Swan Dive
MER 15fed Marwrth am 04:00pm | The Trials of Cato | yn Bangers
MER 15fed Mawrth Amser i’w gyhoeddi | ALASKALASKA | yn BME @ Cedar Street Courtyard
IAU 16eg Mawrth Amser i’w gyhoeddi | James & The Cold Gun | yn Augustine
GWE 17eg Mawrth am 12:00pm | CHROMA | yn Sellers Underground –> arddangosiad Alcopop! Records
GWE 17eg Mawrth am 08:00pm | N’famady Kouyate | yn Las Perlas –> arddangosiad End of the Trail Creative
FOCUS on Wales Creative Industries Meet-Up RSVP
YR AMGYLCHEDD
Mae FOCUS Wales yn benderfynol o leihau allyriadau tŷ gwydr a gwneud eu gwaith yn fwy cynaliadwy, ac fel rhan o’r bwriad yma, maen nhw wedi ymrwymo i wrthbwyso holl effaith carbon yr arddangosiad eleni yn SXSW. Darllenwch am y gwaith rydyn ni’n ei wneud YMA
Mae FOCUS Wales yn SXSW gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol, a Llywodraeth Cymru. Mae ein partneriaid prosiect hefyd yn cynnwys Filmcafe, a Croeso Cymru.