Llunio diwydiant cerddoriaeth y dyfodol, yng Nghymru. Ymunwch a’r drafodaeth, yn gynhadledd FOCUS Wales 7fed I’r 9fed Mai 2026
Mae FOCUS Wales yn cynnal cynhadledd gerddoriaeth ryngweithiol yn ystod yr ŵyl, gan gynnwys paneli, seminarau a thrafodaethau gan arbenigwyr o bob rhan o’r byd. Yn cynnig mewnwelediad manwl i’r diwydiant cerddoriaeth, arbenigedd a phrofiadau byd go iawn o holl sectorau’r diwydiant cerddoriaeth.
Eleni, bydd cynhadledd FOCUS Wales yn canolbwyntio ar y thema “Dyfodol Tecach i Gerddoriaeth,” gan archwilio sut y gall y diwydiant cerddoriaeth fyd-eang symud y tu hwnt i gynhwysiad fel gair poblogaidd, tuag at degwch ystyrlon yn ymarferol. Wrth i’r diwydiant esblygu, felly hefyd y mae’n rhaid i’n dealltwriaeth o degwch esblygu – nid yn unig darparu’r un cyfleoedd, ond teilwra cefnogaeth i ddiwallu anghenion a phrofiadau bywyd amrywiol.
Gan adeiladu ar lwyddiant thema 2025 ‘Dyfodol Iachach i Gerddoriaeth’, bydd trafodaethau, paneli a gweithdai eleni yn tynnu sylw at sut y gall artistiaid, sefydliadau a chymunedau adeiladu ecosystem fwy cynrychioliadol a chynaliadwy ar gyfer cerddoriaeth – un sy’n gwerthfawrogi hygyrchedd, amrywiaeth ddiwylliannol a chyfiawnder cymdeithasol wrth ei wraidd.

Prynu Tocynnau ar gyfer FOCUS Wales 2026 yma
Gellir cyrchu Gynhadledd FOCUS Wales gyda phob* band arddwrn yr ŵyl.
*Mae rhai digwyddiadau rhwydweithio ar gael i ddeiliaid tocyn Cynrychiolydd neu Artist yn unig.
Oes gennych chi syniad ar gyfer pwnc panel, gweithdy, neu ddigwyddiad cynhadledd? Cyflwynwch eich syniadau yma.
Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, os oes gennych ofynion mynediad, neu os ydych yn teimlo bod rhwystr i chi allu cael mynediad i’r gynhadledd, anfonwch e-bost at sarah@focuswales.com i weld sut gallwn ni helpu.
CYNRYCHIOLWYR 2026
2026 Cynrychiolwyr wedi’i gadarnhau hyd yn hyn