• ‘Forward thinking welsh music industry showcase’

    Metro
  • GWYBODAETH

    AMSERLEN A MAP YR ŴYL

    Lawrlwythwch ein amserlen 2025 YMA

    YR AP FOCUS WALES

    Creu eich amserlen unigryw ar gyfer FOCUS Wales 2025…

    Lawrlwythwch ein Ap FOCUS Wales 2025 yn isod:

    iOS YMA
    Android YMA

    CASGLU TOCYNNAU: 
    GWYBODAETH BWYSIG

    Er mwyn lleihau’r angen i giwio yn y lleoliadau, rydyn ni’n neilltuo un swyddfa docynnau
    canolog ar gyfer yr ŵyl eleni, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol tref Wrecsam, sef Tŷ Pawb, sydd ddim mwy na dro bach byr o bob un o’n lleoliadau. 

    Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i bob un sy’n dal tocyn ddod i’n swyddfa docynnau yn Tŷ Pawb, i dderbyn ein bandiau llawes perthnasol ar gyfer eu math nhw o docyn. P’un ai eich bod wedi prynu tocyn penwythnos, tocyn diwrnod, neu docyn ar gyfer unrhyw un o’r sioeau unigol, fe fydd gofyn ichi ddod i Tŷ Pawb i gasglu eich band llawes cyn cael mynd i’r sioe. Os byddwch yn cyrraedd sioe heb eich band llawes, fe gewch eich cyfeirio at Tŷ Pawb. 
    – gweler isod am fwy o wybodaeth am brofi. Cyn gynted y bo’r llawes ganddoch chi,
    fyddwch chi’n barod amdani.

    Bydd Swyddfa Docynnau’r Ŵyl wedi’i lleoli yn Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BE, a bydd ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:

    Dydd Iau 8fed o Fai: 9yb–10yh
    Dydd Gwener 9fed o Fai: 9yb–10yh
    Dydd Sadwrn 10fed o Fai: 10yb–10yh

    AMGYLCHEDD

    Rydyn ni’n mewn trafodaethau parhaus gyda’n llywodraeth, a chyrff ymgynghorol eraill, i sicrhau fod arferion gorau’n cael eu gweithredu yn ein gwaith, a’u bod yn cael eu gwella’n gyson. Mae ein drws yn agored. Rydyn ni’n croesawu syniadau newydd y byddai’n bosib eu hymgorffori yn ein gwaith, wneud yr hyn a wnawn yn gynaliadwy yn amgylcheddol wrth symud ymlaen. Os oes ganddoch chi unrhyw argymhellion o’r fath, cysylltwch â ni trwy info@focuswales.com i drafod eich syniadau ymhellach.

    Darllenwch am y gwaith rydym yn ei wneud YMA

    MYNEDIAD

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd yn FOCUS Wales, cysylltwch â sarah@focuswales.com

    Rydym yn ymdrechu i ymateb i’ch e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.

    Lawrlwythwch ein canllaw mynediad YMA

    Y WASG

    Am Achrediad y Wasg, cliciwch YMA

    Am ymholiadau cyffredinol y Wasg, cysylltwch â: press@focuswales.com

    TEITHIO

    Y Lôn

    Mae Wrecsam yn gyfleus iawn ar gyfer ffordd ddeuol yr A55 tua’r gorllewin, yr M62 wrth deithio tua’r dwyrain, yr M53 a’r M56 am y gogledd a’r A5 a’r M54 wrth anelu am y de. Awr yn unig ydi Lerpwl a Manceinion, Birmingham yn llai na dwyawr ac mae hyd yn oed Llundain a Glasgow o fewn pedair awr. Mae rhaglenni rhannu ceir ar gael. e.e. freewheelers.co.uk

    Trên

    Mae dwy orsaf drenau. Yr Orsaf Ganolog, sy, fel y gellwch ei ddychmygu, yn union yng nghanol y dre’. Hefyd yr Orsaf Gyffredinol, siwrne 3 munud ar droed allan o’r dre’.

    Mae i’r ddwy orsaf gysylltiadau uniongyrchol â Llundain – cewch ddewis rhwng Euston a Marylebone. Mae trenau hefyd yn mynd am Gaerdydd, Caer a’r Amwythig, gyda chysylltiadau i Lerpwl. Yn ogystal, mae cysylltiadau bws i Ddyffryn Ceiriog hardd.

    CYNLLUN TEITHIO TRAVELINE CYMRU

    YMUNO Â RHESTR BOSTIO FOCUS WALES

    Cadwch eich bys ar bỳls y diweddaraf i gyd o newyddion FOCUS Wales trwy ymuno â rhestr bostio YMA

    CAIS I CHWARAE

    – Gwnewch cais i chware trwy ein ffurflen YMA

    GWIRFODDOLI

    Ceisiadau bellach wedi cau.

    NODDI

    Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn noddwr? Email info@focuswales.com

    YMHOLIADAU CYFFREDINOL

    info@focuswales.com

    LLEOLIADAU

    Gweler rhestr o’n lleoliadau a chyfyngiadau oedran am pob lleoliad YMA

    MAP


    Edrychwch ar FOCUS Wales 2025: Venues and Locations ar fap mwy.