FOCUS Wales 2027!

PASYS PENWYTHNOS I’R ŴYL
PAS GŴYL SYLFAENOL
£70 + ffi archebu – Bydd y pas yma i’r ŵyl yn caniatáu mynediad i holl ddigwyddiadau byw, cynhadledd a ffilm FOCUS Wales yn ystod yr ŵyl (os oes yna le yn y lleoliadau)
PAS CYFLYM I’R ŴYL
£85 + ffi archebu – Bydd y pas yma i’r ŵyl yn caniatáu mynediad i holl ddigwyddiadau byw, cynhadledd a ffilm FOCUS Wales yn ystod yr ŵyl (os oes yna le yn y lleoliadau), ac yn caniatáu ichi neidio’r ciw mewn lleoliadau pan fo’n bosib.
PAS CYNRYCHIOLYDD I’R ŴYL
£110 + ffi archebu – Mae deiliad pas cynrychiolydd yn derbyn achrediad llawn a bathodyn. Mae’r pas hwn yn caniatáu blaenoriaeth mynediad (os oes yna le yn y lleoliadau) i holl sioeau’r ŵyl, sesiynau’r gynhadledd a ffilm a mynediad i holl ddigwyddiadau rhwydweithio cynrychiolwyr, yn ogystal â mynediad i gronfa ddata’r cynrychiolwyr a phroffil proffesiynol ar wefan ag ap symudol FOCUS Wales.
MYNEDIAD
Os ydych chi angen tocyn FOCUS Wales ychwanegol ar gyfer gofalwr neu gymhorthydd, cysylltwch â sarah@focuswales.com Rydyn ni’n ceisio ymateb i’ch e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.
*Noder na ellir prosesu ceisiadau mynediad a cheisiadau tocynnau i ofalwyr/cymorthyddion wedi Mai 3ydd. Fe geisiwn ni’n gorau i ddelio ag unrhyw anghenion yn ystod y digwyddiad; fodd bynnag, rhaid disgwyl oedi yn derbyn atebion i e-byst gan fod yr ŵyl ymlaen ar yr un pryd.
GWYBODAETH PWYSIG
Darllenwch yr isod yn ofalus.
Mae gofyn i holl ddeiliaid tocynnau fynd i’n swyddfa docynnau yn Nhŷ Pawb, lle y bydden nhw’n derbyn y band llawes perthnasol ar gyfer eu math o docyn. P’un ai eich bod wedi prynu pas penwythnos, pas undydd, neu unrhyw docyn i sioe unigol, fe fydd angen ichi gasglu band llawes o Tŷ Pawb cyn mynd i sioe. Os fyddwch chi’n cyrraedd lleoliad heb fand llawes, fe fyddwch yn cael eich cyfeirio at Tŷ Pawb.
Bydd ein Swyddfa Docynnau’r Ŵyl wedi’i lleoli yn Nhŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BE, ac ar agor ar yr adegau canlynol:
Dydd Iau, Mai 6ed: 9yb-10yh
Dydd Gwener, Mai 7fed: 9yb-10yh
Dydd Sadwrn, Mai 8fed: 9yb-10yh
Does dim modd trosglwyddo nac ad-dalu tocynnau a brynir ac ni allwn ychwanegu na gwneud newidiadau i’ch archeb
Polisi Bandiau Llawes a Gollir neu a Dorrir
Os ydych chi wedi torri eich band llawes, dewch â’r band llawes gwreiddiol at y swyddfa docynnau yn Nhŷ Pawb, yn ystod oriau agor, ac fe gewch un newydd yn ei le..
Unwaith y byddwch wedi cyfnewid eich tocynnau am fandiau llawes, bydd cyfrifoldeb unigol am y bandiau llawes wedyn yn nwylo’r prynwr.
Os ydych chi wedi casglu eich band llawes ond wedyn yn ei golli neu ei gamleoli, neu’n methu â chyflwyno band wedi’i ddifrodi am un newydd, bydd gofyn ichi brynu tocyn o’r newydd.