• Winner of Best Festival for Emerging Talent at UK Festival Awards

  • WYBODAETH

    AMSERLEN A MAP YR ŴYL

    AMSERLEN FOCUS Wales 2025 dod yn fuan!

    Lawrlwythwch ein amserlen 2024 YMA

    YR AP FOCUS WALES

    Creu eich amserlen unigryw ar gyfer FOCUS Wales 2024…

    Lawrlwythwch ein Ap FOCUS Wales 2024 yn isod:

    iOS YMA
    Android YMA

    CASGLU TOCYNNAU: 
    GWYBODAETH BWYSIG

    Er mwyn lleihau’r angen i giwio yn y lleoliadau, rydyn ni’n neilltuo un swyddfa docynnau
    canolog ar gyfer yr ŵyl eleni, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol tref Wrecsam, sef Tŷ Pawb, sydd ddim mwy na dro bach byr o bob un o’n lleoliadau. 

    Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i bob un sy’n dal tocyn ddod i’n swyddfa docynnau yn Tŷ Pawb, i dderbyn ein bandiau llawes perthnasol ar gyfer eu math nhw o docyn. P’un ai eich bod wedi prynu tocyn penwythnos, tocyn diwrnod, neu docyn ar gyfer unrhyw un o’r sioeau unigol, fe fydd gofyn ichi ddod i Tŷ Pawb i gasglu eich band llawes cyn cael mynd i’r sioe. Os byddwch yn cyrraedd sioe heb eich band llawes, fe gewch eich cyfeirio at Tŷ Pawb. 
    – gweler isod am fwy o wybodaeth am brofi. Cyn gynted y bo’r llawes ganddoch chi,
    fyddwch chi’n barod amdani.

    Bydd Swyddfa Docynnau’r Ŵyl wedi’i lleoli yn Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BE, a bydd ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:

    Dydd Iau 8fed o Fai: 9yb–10yh
    Dydd Gwener 9fed o Fai: 9yb–10yh
    Dydd Sadwrn 10fed o Fai: 10yb–10yh

    AMGYLCHEDD

    Rydyn ni’n mewn trafodaethau parhaus gyda’n llywodraeth, a chyrff ymgynghorol eraill, i sicrhau fod arferion gorau’n cael eu gweithredu yn ein gwaith, a’u bod yn cael eu gwella’n gyson. Mae ein drws yn agored. Rydyn ni’n croesawu syniadau newydd y byddai’n bosib eu hymgorffori yn ein gwaith, wneud yr hyn a wnawn yn gynaliadwy yn amgylcheddol wrth symud ymlaen. Os oes ganddoch chi unrhyw argymhellion o’r fath, cysylltwch â ni trwy info@focuswales.com i drafod eich syniadau ymhellach.

    Darllenwch am y gwaith rydym yn ei wneud YMA

    MYNEDIAD

    Lawrlwythwch ein canllaw mynediad YMA

    Rydym yn ymdrechu i ymateb i’ch e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.

    Lawrlwythwch ein canllaw mynediad YMA

    Y WASG

    Am Achrediad y Wasg, cliciwch YMA

    Am ymholiadau cyffredinol y Wasg, cysylltwch â: press@focuswales.com

    TEITHIO

    Y Lôn

    Mae Wrecsam yn gyfleus iawn ar gyfer ffordd ddeuol yr A55 tua’r gorllewin, yr M62 wrth deithio tua’r dwyrain, yr M53 a’r M56 am y gogledd a’r A5 a’r M54 wrth anelu am y de. Awr yn unig ydi Lerpwl a Manceinion, Birmingham yn llai na dwyawr ac mae hyd yn oed Llundain a Glasgow o fewn pedair awr. Mae rhaglenni rhannu ceir ar gael. e.e. freewheelers.co.uk

    Trên

    Mae dwy orsaf drenau. Yr Orsaf Ganolog, sy, fel y gellwch ei ddychmygu, yn union yng nghanol y dre’. Hefyd yr Orsaf Gyffredinol, siwrne 3 munud ar droed allan o’r dre’.

    Mae i’r ddwy orsaf gysylltiadau uniongyrchol â Llundain – cewch ddewis rhwng Euston a Marylebone. Mae trenau hefyd yn mynd am Gaerdydd, Caer a’r Amwythig, gyda chysylltiadau i Lerpwl. Yn ogystal, mae cysylltiadau bws i Ddyffryn Ceiriog hardd.

    CYNLLUN TEITHIO TRAVELINE CYMRU

    YMUNO Â RHESTR BOSTIO FOCUS WALES

    Cadwch eich bys ar bỳls y diweddaraf i gyd o newyddion FOCUS Wales trwy ymuno â rhestr bostio YMA

    CAIS I CHWARAE

    Gwnewch gais i chwarae FOCUS Wales 2025 trwy GIGMIT (am ddim) YMA

    Neu, gwnewch gais i chwarae trwy ein ffurflen YMA

    GWIRFODDOLI

    Oes gennych ddiddordeb gwirfoddoli at FOCUS Wales 2025?

    Llenwi ein ffurflen YMA

    NODDI

    Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn noddwr? Email info@focuswales.com

    YMHOLIADAU CYFFREDINOL

    info@focuswales.com

    LLEOLIADAU

    Gweler rhestr o’n lleoliadau a chyfyngiadau oedran am pob lleoliad YMA

    MAP


    Edrychwch ar FOCUS Wales 2025: Venues and Locations ar fap mwy.