MAE’R HOLL wybodaeth ddefnyddiol SYDD EI HANGEN ARNOCH CYN Gŵyl FOCUS Wales 2026 YMA!
AMSERLEN A MAP YR ŴYL YN DOD YN FUAN
Lawrlwythwch ein amserlen 2025 YMA
YR AP FOCUS WALES YN DOD YN FUAN
Creu eich amserlen unigryw ar gyfer FOCUS Wales 2025…
Lawrlwythwch ein Ap FOCUS Wales 2025 yn isod:
CASGLU TOCYNNAU:
GWYBODAETH BWYSIG
Er mwyn lleihau’r angen i giwio yn y lleoliadau, rydyn ni’n neilltuo un swyddfa docynnau
canolog ar gyfer yr ŵyl eleni, sydd wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol tref Wrecsam, sef Tŷ Pawb, sydd ddim mwy na dro bach byr o bob un o’n lleoliadau.
Mae hyn yn golygu fod yn rhaid i bob un sy’n dal tocyn ddod i’n swyddfa docynnau yn Tŷ Pawb, i dderbyn ein bandiau llawes perthnasol ar gyfer eu math nhw o docyn. P’un ai eich bod wedi prynu tocyn penwythnos, tocyn diwrnod, neu docyn ar gyfer unrhyw un o’r sioeau unigol, fe fydd gofyn ichi ddod i Tŷ Pawb i gasglu eich band llawes cyn cael mynd i’r sioe. Os byddwch yn cyrraedd sioe heb eich band llawes, fe gewch eich cyfeirio at Tŷ Pawb.
– gweler isod am fwy o wybodaeth am brofi. Cyn gynted y bo’r llawes ganddoch chi,
fyddwch chi’n barod amdani.
Bydd Swyddfa Docynnau’r Ŵyl wedi’i lleoli yn Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BE, a bydd ar agor yn ystod yr amseroedd canlynol:
Dydd Iau 7fed o Fai: 9yb–10yh
Dydd Gwener 8fed o Fai: 9yb–10yh
Dydd Sadwrn 9fed o Fai: 10yb–10yh
AMGYLCHEDD
Rydyn ni’n mewn trafodaethau parhaus gyda’n llywodraeth, a chyrff ymgynghorol eraill, i sicrhau fod arferion gorau’n cael eu gweithredu yn ein gwaith, a’u bod yn cael eu gwella’n gyson. Mae ein drws yn agored. Rydyn ni’n croesawu syniadau newydd y byddai’n bosib eu hymgorffori yn ein gwaith, wneud yr hyn a wnawn yn gynaliadwy yn amgylcheddol wrth symud ymlaen. Os oes ganddoch chi unrhyw argymhellion o’r fath, cysylltwch â ni trwy info@focuswales.com i drafod eich syniadau ymhellach.
Darllenwch am y gwaith rydym yn ei wneud YMA
MYNEDIAD
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hygyrchedd yn FOCUS Wales, cysylltwch â sarah@focuswales.com
Rydym yn ymdrechu i ymateb i’ch e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.
Lawrlwythwch ein canllaw mynediad YMA
Y WASG
Am Achrediad y Wasg, cliciwch YMA
Am ymholiadau cyffredinol y Wasg, cysylltwch â: press@focuswales.com
TEITHIO
Y Lôn
Mae Wrecsam yn gyfleus iawn ar gyfer ffordd ddeuol yr A55 tua’r gorllewin, yr M62 wrth deithio tua’r dwyrain, yr M53 a’r M56 am y gogledd a’r A5 a’r M54 wrth anelu am y de. Awr yn unig ydi Lerpwl a Manceinion, Birmingham yn llai na dwyawr ac mae hyd yn oed Llundain a Glasgow o fewn pedair awr. Mae rhaglenni rhannu ceir ar gael. e.e. freewheelers.co.uk
Trên
Mae dwy orsaf drenau. Yr Orsaf Ganolog, sy, fel y gellwch ei ddychmygu, yn union yng nghanol y dre’. Hefyd yr Orsaf Gyffredinol, siwrne 3 munud ar droed allan o’r dre’.
Mae i’r ddwy orsaf gysylltiadau uniongyrchol â Llundain – cewch ddewis rhwng Euston a Marylebone. Mae trenau hefyd yn mynd am Gaerdydd, Caer a’r Amwythig, gyda chysylltiadau i Lerpwl. Yn ogystal, mae cysylltiadau bws i Ddyffryn Ceiriog hardd.
CYNLLUN TEITHIO TRAVELINE CYMRU
YMUNO Â RHESTR BOSTIO FOCUS WALES
Cadwch eich bys ar bỳls y diweddaraf i gyd o newyddion FOCUS Wales trwy ymuno â rhestr bostio YMA
CAIS I CHWARAE
MAE CEISIADAU ARTISTIAID AR GAU.
*Bydd artistiaid yn cael eu hysbysu cyn 1af o Chwefror.
*NODYN: Ni fydd cyflwyniadau yn cael ei dderbyn drwy ebost.
GWIRFODDOLI
Gwnewch cais i gwirfoddoli YMA
NODDI
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn noddwr? Email info@focuswales.com
YMHOLIADAU CYFFREDINOL
LLEOLIADAU
Gweler rhestr o’n lleoliadau a chyfyngiadau oedran am pob lleoliad YMA
MAP
Edrychwch ar FOCUS Wales 2026: Venues and Locations ar fap mwy.