• ‘Forward thinking welsh music industry showcase’

    Metro
  • TOCYNNAU

    PASYS PENWYTHNOS I’R ŴYL


    PAS GŴYL SYLFAENOL

    £85 + ffi archebu – Bydd y pas yma i’r ŵyl yn caniatáu mynediad i holl ddigwyddiadau byw, cynhadledd a ffilm FOCUS Wales yn ystod yr ŵyl (os oes yna le yn y lleoliadau)

    PAS CYFLYM I’R ŴYL

    £110 + ffi archebu – Bydd y pas yma i’r ŵyl yn caniatáu mynediad i holl ddigwyddiadau byw, cynhadledd a ffilm FOCUS Wales yn ystod yr ŵyl (os oes yna le yn y lleoliadau), ac yn caniatáu ichi neidio’r ciw mewn lleoliadau pan fo’n bosib.

    PAS CYNRYCHIOLYDD I’R ŴYL

    £170 + ffi archebu – Mae deiliad pas cynrychiolydd yn derbyn achrediad llawn a bathodyn. Mae’r pas hwn yn caniatáu blaenoriaeth mynediad (os oes yna le yn y lleoliadau) i holl sioeau’r ŵyl, sesiynau’r gynhadledd a ffilm a mynediad i holl ddigwyddiadau rhwydweithio cynrychiolwyr, yn ogystal â mynediad i gronfa ddata’r cynrychiolwyr a phroffil proffesiynol ar wefan ag ap symudol FOCUS Wales.

    PAS UNDYDD

    Dim ond yn medru dod am un diwrnod? Fe all ein opsiwn pas undydd fod yn addas i chi:


    TOCYN DIWRNOD: DYDD IAU 7 MAI
    TOCYN DIWRNOD: DYDD GWENER 8 MAI
    TOCYN DIWRNOD: DYDD SADWRN 9 MAI

    TOCYNNAU SIOE UNIGOL

    Mae eich pasys FOCUS Wales yn caniatáu mynediad i bob lleoliad (os oes yna le). Fodd bynnag, mae’n bosib mai dim ond i un neu ddwy sioe fedrwch chi fynd ac felly, gyda hyn mewn golwg, rydyn ni wedi sicrhau bod nifer cyfyngedig o docynnau sioe ar gael ar gyfer y sioeau canlynol:


    DYDD IAU 7 MAI

    FAT DOG + MWY

    Llwyn Isaf, Wrecsam

    DEERHOOF + MWY

    The Rockin’ Chair, Wrecsam

    TRISTWCH Y FENYWOD + MWY

    St Giles’ Parish Church, Wrecsam

    DYDD GWENER 8 MAI

    IDLEWILD + SLATE + MWY

    Llwyn Isaf, Wrecsam

    GWENNO + YARD + MWY

    DYDD GWENER 8 MAI

    The Rockin’ Chair, Wrecsam

    BILL RYDER-JONES + MWY

    St Giles’ Parish Church, Wrecsam

    *All other shows are festival wristband access only.

    DYDD SADWRN 9 MAI

    SHAME + THE MOONLANDINGZ + MWY

    Llwyn Isaf, Wrecsam

    THE BUG CLUB + MOONCHILD SANELLY + MWY

    The Rockin’ Chair, Wrecsam

    CERYS HAFANA + KIZZY CRAWFORD + MWY

    St Giles’ Parish Church, Wrecsam

    *Mae mynediad i sioeau eraill yr ŵyl trwy fand llawes yn unig.

    MYNEDIAD


    Os ydych chi angen tocyn FOCUS Wales ychwanegol ar gyfer gofalwr neu gymhorthydd, cysylltwch â sarah@focuswales.com Rydyn ni’n ceisio ymateb i’ch e-bost o fewn 5 diwrnod gwaith.

    *Noder na ellir prosesu ceisiadau mynediad a cheisiadau tocynnau i ofalwyr/cymorthyddion wedi Mai 5ed. Fe geisiwn ni’n gorau i ddelio ag unrhyw anghenion yn ystod y digwyddiad; fodd bynnag, rhaid disgwyl oedi yn derbyn atebion i e-byst gan fod yr ŵyl ymlaen ar yr un pryd.

    GWYBODAETH PWYSIG
    Darllenwch yr isod yn ofalus.
    Mae gofyn i holl ddeiliaid tocynnau fynd i’n swyddfa docynnau yn Nhŷ Pawb, lle y bydden nhw’n derbyn y band llawes perthnasol ar gyfer eu math o docyn. P’un ai eich bod wedi prynu pas penwythnos, pas undydd, neu unrhyw docyn i sioe unigol, fe fydd angen ichi gasglu band llawes o Tŷ Pawb cyn mynd i sioe. Os fyddwch chi’n cyrraedd lleoliad heb fand llawes, fe fyddwch yn cael eich cyfeirio at Tŷ Pawb.

    Bydd ein Swyddfa Docynnau’r Ŵyl wedi’i lleoli yn Nhŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BE, ac ar agor ar yr adegau canlynol:

    Dydd Iau, Mai 7fed: 9yb-10yh

    Dydd Gwener, Mai 8fed: 9yb-10yh

    Dydd Sadwrn, Mai 9fed: 10yb-10yh

    Does dim modd trosglwyddo nac ad-dalu tocynnau a brynir ac ni allwn ychwanegu na gwneud newidiadau i’ch archeb

    Polisi Bandiau Llawes a Gollir neu a Dorrir
    Os ydych chi wedi torri eich band llawes, dewch â’r band llawes gwreiddiol at y swyddfa docynnau yn Nhŷ Pawb, yn ystod oriau agor, ac fe gewch un newydd yn ei le..

    Unwaith y byddwch wedi cyfnewid eich tocynnau am fandiau llawes, bydd cyfrifoldeb unigol am y bandiau llawes wedyn yn nwylo’r prynwr.

    Os ydych chi wedi casglu eich band llawes ond wedyn yn ei golli neu ei gamleoli, neu’n methu â chyflwyno band wedi’i ddifrodi am un newydd, bydd gofyn ichi brynu tocyn o’r newydd.