Mae Sian Eleri yn ddarlledwraig a chyflwynydd o Gymru sy’n adnabyddus am ei gwaith ar draws BBC Radio 1, BBC Radio Cymru ac S4C, lle mae hi’n cyflwyno rhaglenni gan gynnwys Future Artists, The Chillest Show a The Power Down Playlist, yn ogystal â’r gyfres ddogfen Paranormal ar BBC Three. Mae Sian Eleri yn egluro, “Mae dod yn ôl i Gymru ar gyfer y sioe sy’n gweiddi am ein sîn ar lefel fyd-eang yn llawenydd mawr, a dweud y gwir. Gyda’r ffocws ar ‘Dyfodol Tecach i Gerddoriaeth’ eleni, mae’n teimlo fel yr union foment iawn i fod yn rhan o’r sgwrs – felly gadewch i ni sgwrsio!”